Rwy’n 42, ac yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, Gwynedd ac er i mi fyw dros ugain mlynedd mewn llefydd amrywiol, rywf wedi dychwelyd i fro fy mebyd erbyn hyn. Bum yn athrawes Gymraeg am 15 mlynedd yn Ysgol Ardudwy tan 2010 ac yna yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin tan 2019. Wedi penderfynu rhoi’r gorau i weithio fel athrawes penderfynais ddilyn hen ddymuniad ac astudio doethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor dan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Cwrs rhan amser ydyw ac fe fyddaf yn ei orffen yn 2027 gobeithio. Mae dwy nofel gennyf erbyn hyn ; Drychwll (Gwasg Carreg Gwalch, 2020) a DAROGAN (Gwasg Carreg Gwalch, 2022). Mae’r ddwy nofel yn ffitio i genre arswyd cosmig gan fy mod yn hoff iawn o gyfuno elfennau hanesyddol efo’r paranormal. Rwyf wrth fy modd yn dysgu am hanes y Cymry a’r Celtiaid ac maent yn cael lle blaenllaw yn y ddwy nofel. Rwyf yn gweithio ar y drydedd nofel yn rhinwedd fy nghwrs PhD.