Mae’r nodau pêr fel cawod pinnau sydd
yn tincial ddisgyn drwy ei bysedd hi;
a’i halaw fel yr haul ar derfyn dydd
yn llosgi am ryw ennyd ar y lli.
Wnaeth fyrfyfyrio ‘Enlli’ agor drws;
‘Gwenllian’ a’i meddiannodd, a’i rhyddhau;
‘Carn Ingli’ gyda’r un brawddegu tlws –
pob un â dyfnder hŷn, ond angerdd iau.
Ac rhyfedd mai yn hwyrddydd oes y daeth
athrylith hon fel gwawr i lwyfan byd;
a hithau’n llacio staes traddodiad caeth,
tra’n rhannu’i dysg â’i chywion yr un pryd.
Mae gwlith y bore’n swyn ei thelyn hi –
a Llio bellach yw ein ‘Nansi’ ni.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru | National Poet of Wales
(This is a poem by National Poet of Wales, Ifor ap Glyn; it was written to congratulate Llio Rhydderch, a talented harpist, on receiving an Honorary Fellowship from Bangor University, 19 July 2018. This poem is currently only available in Welsh.)