Ryw brynhawngwaith o Fehefin
a’r haf yn euro’r disgwyl hir,
cymerais fy hynt tua Ffrainc.
Ac mi a welais ryfeddodau;
yn gyntaf, wal goch,
a honno’n cyd-symud ac yn canu.
A’r wal a droes yn rhyferthwy
a gododd o ystlysoedd y stadiwm
a golchi’n fôr gorfoleddus o goch
drwy’r strydoedd, o Lens i Toulouse.
Ac mi a glywais arwyr y bêl gron
yn hawlio’u hiaith yn ôl, fesul ‘diolch’,
a chrys-wneuthurwyr a bragwyr
o ben draw’r byd,
yn ei harddel hefyd yn eu sgîl.
Ac wele, nôl yng Ngwalia,
roedd y ffenestri’n dreigio,
a’r trefi cochion yn taranu;
a’n hyder newydd fel enfys wedi’r glaw.
A dyma fy mhobl, y vampire nation
(a arferai syllu i’r drych a gweld dim)
yn camu o’r cysgodion
ac yn canfod eu hunain,
megis am y tro cyntaf.
Boed felly i’r rhyfeddodau hyn barhau
a chawn agor llwybrau newydd
wrth i’r hen rai fygwth cau –
a dyna fasa’n euro’r cyfan…
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru | National Poet of Wales
(This poem was written to look forward to the UEFA Euro 2016 tournament, with Wales’ football team competing. This poem is currently only available in Welsh.)