…Braich Ucha, Garrett Ganol, Ponc Robin Rabar;
Prinhau mae’r rhai sy’n deall iaith y graig
sy’n deall her y ‘traed’ a’r ‘crychod’ a’r ‘brig trwm’;
sy’n rhegi’r cerrig budron
ac yn canmol rhai fel sidan.
…Awstralia, Pont Mosys, Toffat;
A chydig heddiw fedar gofio emynau’r graig,
fu’n gryndod bas ar flondin neu inclên,
cyn brashollti’n bedwar llais,
yn gymanfa gyllyll naddu….
…Ponc Swallow, Califfornia, Sinc Wembley;
Mud yw’r mynydd mwyach
ond mae camp ein cyndadau
yn llafar ar y llethrau hyn o hyd.
…Hafod Owen, Llangristiolus, Y Bonc Fawr;
Nid rhyw ‘gewri stori fusutors’
wnaeth gerfio’r grisiau anferth hyn,
ond gwerin dwylo garw
a’u ffydd yn symud mynyddoedd,
wrth gonsurio cerrig yn fara,
fesul ponc a sinc.
…Matilda, Aberdaron, Ponc Teiliwr;
Ac os dewch yn nes,
a meinio’ch clustiau
yn erbyn y gwynt,
yn erbyn rhyfyg y dringwyr rhaffau glas,
bydd y ponciau’n sibrwd eu henwau o hyd…
….Twll Dwndwr, Bonc Wyllt, New York;
Hanner canrif wedi’r cau
mae gwaddol eu gorffennol
yn dal i ddwyn hen fyd yn ei ôl;
ond gwae ni’r plant
a wyrion eu brodir
pan elo ponciau’r hanes
yn geudod mud
ar ystlys Elidir…
…Sinc Galed, Ponc Enid, Abyssinia.
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru | National Poet of Wales
(This poem was commissioned by Amgueddfa Lechi Cymru to note 50 years since the closure of Dinorwig Quarry. The commission went hand in hand with Cofio’r Cau – Dinorwig ’69 exhibition, showcasing artwork and poetry by pupils of the quarry districts, compiled during workshops with Mari Gwent and Ifor ap Glyn.
For further information about the exhibition, click here.
This poem is currently only available in Welsh.)