Yn betrus mae ’ngwefusau’n ymrannu,
ac mae’r enw’n chwarae’n
firi, yn fraw, yn wên frau,
yn llif tair o sillafau;
enw ar gân Gymraeg yw – a’r enw’n
gyfrinach unigryw,
y gân all droi geiriau gwyw
– o’u dweud – yn fywyd ydyw.
Yna oedaf, beth wnei-di
â’r enw, ei henw hi?
Ai di-air ar dafod arall – fydd-hi
yn foddion anniwall,
a’r dweud yn fud, byddar, dall,
yn ddiawen, di-ddeall?
A glywi hi yn gân glaf,
yn sŵn oer? A synhwyraf
na chei yma ddim dychymyg – ein cof,
na’n cân … er ei menthyg:
pŵl yw hi rhwng cloriau plyg
â hi’n dawel ei diwyg.
Ond pan ddaw ei halaw hi – ar lafar
i lifo yn gwmni,
ar y daith, i’n heniaith ni,
daw ei henw’n ddadeni;
nid addurn na dweud eiddil
ffwr’ â hi, nid rhyw odl ffril
un ategolyn, nid gwedd
swynol ac nid cytseinedd,
ond yr iaith o fewn iaith yw,
y dweud o fewn dweud ydyw;
clwm dau frawd mewn deuawd yw,
a rhwyd rhwng dwy chwaer ydyw,
y ddwy mewn cydymddeall,
y naill ai llaw’n rhyddhau’r llall;
cyson anghyson yw hi
â’i halaw-tonnau-heli,
ac fel mae’r môr yn torri’n
llinell wen rhwng llain a lli
ar y traeth, mae’n creu trothwy,
creu darn lle daw curiad dwy
egwyddor i ymguddio’n – ei gilydd;
mae’n galw i gydasio
alawon, dod i lywio
llatai’r trai er mwyn dal tro
y llanw, a chreu llinell,
ac o wneud, llunio’r gân well –
rhoi iddi ddawns a’i rhyddhau
yn ewyn harmonïau;
yna mae’n dal mynd a dod
rhyw obaith diarwybod,
dal anadl ein dolenni
mewn calon i’n huno ni,
dal ein byd ynghyd yng nghôr
ei llawenydd nes llunio’r
ysig yn fiwsig. A fedd
ei henw caiff gynghanedd.