Feirdd mawr a mân, mae’r gân sy gen-i’n
Gwrw cég ac yn garreg hogi,
Hen fel cetyn, ifanc eto,
Coeden afal dal yn deilio;
Sŵn fel Coltrane, sŵn perseinedd
Jamio cerddi; daw’n gynhenid y gynghanedd
Yn yr aflonydd greddfol, yno,
Rhwng llafariaid, y mae’r enaid na ŵyr mono.
Yr hwn a yfo win yn ofer
A wêl wastio’i holl felyster;
Ni all rhoi’r cyfan ar gynghanedd
Ond ei handwyo hi’n y diwedd;
Gwell yw rhedeg ar guriadau
Na rhyw gropian yng nghynllyfan y sillafau,
Gwell gan enaid y gynghanedd
Ar droed brysur guro’i fesur nag ar fysedd.
A feichia’r saer yn daer a dorro;
Chi gywyddwyr dur, diwyro,
Byddwch lawen, cenwch bennill
Heb y cyffion sythion seithsill;
Clywch yn canu’n ei acenion,
Os clustfeiniwch, lais dirgelwch clust-i’r-galon,
Arthur ei hun heddiw’n dihuno
I sŵn clychau’n eco ar greigiau ceg yr ogo’.