weithiau, mae’r awyr yn llwyd,
a bryd hynny mae’n anodd credu
y daw fyth eto awyr las.
weithiau, mae dy sanau yn wlyb,
yn wlyb socian, a chditha’n teimlo
na fydd dy draed di fyth yn gynnes eto.
ac weithiau, rwyt tithau’n teimlo fel yr awyr
ac fel dy sanau, yn llwyd ac yn oer
a bod neb wir yn gwrando arnat. cofia bryd hynny
bod gen ti hawl i deimlo fel hyn,
ac nad oes rhaid i ti guddio tu ôl i wên.
ar y dyddiau glawog hynny
dos i swatio mewn lle cynnes,
bydd yn glên efo chdi dy hun
a chofia bod ‘na awyr las yn cuddio
tu ôl i’r cymylau
nid dim ond weithiau,
ond bob tro.
Gruffudd Owen