‘Slawer dydd pan oeddwn ddiniweidwas
yn sglaffio’r melynder a’i hyfrydflas,
ni wyddwn fod y byd yn bananas.
 minnau ar ganol cnoiad llawn pwrpas
tra’n pîlo’r croen agorwyd fy llygaid gwyrddlas
i weld fod ein byd yn hollol bananas.
‘Slawer dydd fe ffermiai Foncho* ag urddas
ond bellach bob bore mae’r wawr yn ddiflas
a bwa trist nid gwên sydd yn siâp ei fananas.
Gwêl Foncho bob lleidr wedi’i wisgo fel heddwas
ac yntau yw’r mwnci sy’n dawnsio’n y syrcas,
ond gŵyr mai gweddill y byd sy’n bananas.
Gwêl Foncho ddyfodol sy’n aur ei felynflas
a’i erw fach deg yn wên o deyrnas
heb i ninnau fynd yn bananas.
Aneirin Karadog