Sgwn i sut wnai gofio hyn?
Codi llaw ar ddynion bin,
gwneud gwaith ysgol mewn pajamas,
tynnu lluniau ar fananas,
dysgu enwau’r adar mân,
gwylio fideos calon lân,
weindio’n gilydd, cael llond bol,
ffonio ffrindiau, siarad lol,
sgrolio, sgrolio, sgrolio, sgrolio,
nes bod llgada pawb yn rowlio,
ie, crio…. ond mwy o chwerthin,
rhannu jôcs wrth fwrdd y gegin,
treulio oriau’n yr ardd gefn,
prydau bwyd heb fawr o drefn,
meddwl am yr arwyr tawel
sy’n ein cadw ni’n ddiogel,
sefyll yn y drws yn clapio,
dysgu Nain sut mae snapchatio,
edrych mlaen at amser te,
gwylio’r cathod ar y we,
neb yn siŵr beth ydy’r dyddiad,
bach o ffraeo, lot o gariad,
golchi dwylo, danfon cwtsh,
mynd dan groen ein gilydd, dwtsh,
byta mynydd mawr o dost,
ac ambell awr fach wirion bost,
dawnsio disgo, carioci,
esgus hedfan ar ffon hoci.
Tydi’o ddim yn fêl i gyd,
bod yn sownd yn tŷ o hyd.
Ond pan daw eto haul ar fryn
mi driai gofio’r pethau hyn,
y pethau gadwodd ni ynghyd,
y pethau bach sy’n werth y byd.
Gruffudd Owen