I gyfarch Manon a Rhiannon
Ym Mehefin rhown ninnau – ein hwrê
I’n storïwyr gorau,
Ganddynt bu’r storïwyr iau
Yn cael aur rhwng y cloriau.
Arafwch, chi’r llyfrbryfed! Blaswch chi’r
Stori ac ystyried
Ei holl iaith a’i hyd a’i lled,
Llyfr cŵl – mae’n llafur caled.
Yn dy sêt, dwed, os wyt ti – am nofel
Yma’n haf Eryri
Heno i dy hudo di –
Dwy o Wynedd amdani!
Storïwr gonest, real – cymer wobr
Cymru wych yn fedal,
Rho ar bentan ran o’r wal
I hon, Manon, ym Mhennal.
Rho ar dy bentan, Rhiannon – wobr gain
Sgubor Goch ar d’union,
Est â ni ’leni ar lôn
Gynhyrfus i G’narfon.
Ar ran plant Cymru annwyl – da iawn, iawn!
Creu mwy nawr yw’r gorchwyl,
Ar dân bob mis cawn ddisgwyl
Am aur awduresau’r ŵyl.
Eurig Salisbury