Mae blwyddyn wedi hedfan, a’n harwyr nawr yn hŷn,
Mae’n amser i ni ddathlu bod yn Gymry balch bob un!
Ar ôl eu creu gan ddewin, gosodwyd iddynt swydd-
Cael plant i sgwrsio yn Gymraeg, dim problem, meddant, rhwydd!
Ein harwyr, diolch am eich chwerthin,
A diolch am eich gwaith.
Cawn ddathlu gyda’n gilydd yn Gymraeg,
Gyda’n gilydd yn Gymraeg.
Bu’r ddau yn hynod brysur, yn teithio hyd y lle,
i holl ysgolion Cymru, rhai’r gogledd a rhai’r de.
Gyda’u pŵer hud arbennig – cael pawb i siarad iaith:
Cymraeg yw hud a lledrith gwych ein harwyr ar eu taith!
Ar iard yr ysgol, ar y bws, neu yn y parc,
mae pawb yn sgwrsio yn Gymraeg fel Seren fach a Sbarc!
Casia Wiliam