Mae Bardd Plant Cymru’n gradur rhyfedd
(mae o’n haeddu bod mewn sw),
gall drawsnewid sut mae’n edrych
fel rhyw farddol Ddoctor Who.
Achos weithiau mae hi’n fenyw,
ac weithiau mae o’n ddyn,
mae’n gallu siarad iaith Sir Benfro
efo acen gry’ Pen Llŷn.
Mae o’n un sy’n dallt ein hanes,
mae hi’n un sy’n gweld ymhell,
gall beintio llun ’da geiriau,
a chwalu muriau’r gell.
Mae e’n gwybod shwt ma’ rapio!
Gall sgwennu cân i godi’r to!
Mae o’n nabod llwch y lonydd,
ac mae’n hoffi odli… sbo!
Mae hi’n gweld drwy lygaid plentyn,
mae o’n nabod chwedlau’r fro,
mae e weithiau’n foi golygus…
dim ond weithiau… nid bob tro.
Bardd rhyngwladol, bardd gogleisiol,
bardd a’i cherddi’n llenwi’r lle,
bardd llawn gemau a phastynau,
bardd o’r Gogledd ac o’r De.
Ac mae’n gwirioni ar farddoni
(hyd yn oed ar fore Llun),
ac mae’n ugain oed eleni!
(Er bod e’n edrych tipyn hŷn.)
Ond er mor hudol ydi’r cradur
(mwy hudol, wir, na Dewi Sant),
mae yng Nghymru rai difyrrach
na’r un bardd… a nhw yw’r plant.
Plant sy’n berwi o gwestiynau,
plant sy’n chwerthin wrth ddweud ‘Pŵ’!
Plant a’u breichiau’n saethu fyny
â brwdfrydedd cangarŵ.
Plant sy’n canfod rhyfeddodau
yn y ddinas, gwlad a thre,
plant sy’n dysgu i Fardd Plant Cymru
be ’di byw, a be ’di be!
Plant sy’n odli. Plant sy’n holi.
Plant ddaw â ninnau at ein coed.
Plant sy’n llenwi bardd â gobaith.
Plant y wlad fach orau ’rioed.
Gruffudd Owen